Gwendolyn Brooks | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1917 Topeka |
Bu farw | 3 Rhagfyr 2000 Chicago |
Man preswyl | Illinois, South Side, Topeka, Michigan Boulevard Garden Apartments |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, nofelydd, athro |
Cyflogwr |
|
Prif ddylanwad | Langston Hughes, Richard Wright |
Plant | Nora Brooks Blakely |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Y Medal Celf Cenedlaethol, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Medal Langston Hughes, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Bardd Llawryfog yr Unol Daleithiau, Medal Robert Frost, Darlith Jefferson, Gwobr Goffa Eunice Tietjens, Gwobr Hall Of Fame Llenyddiaeth y Duon, Gwobr Rhyddid Kuumba, Cymrodoriaeth Academi Beirdd America, Shelley Memorial Award, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman |
Bardd Americanaidd toreithiog oedd Gwendolyn Brooks (7 Mehefin 1917 - 3 Rhagfyr 2000) oedd hefyd yn nofelydd ac athrawes. Mae ei gwaith yn delio gydag anawsterau a phroblemau sy'n wynebu pobl gyffredin UDA o ddydd i ddydd. Enillodd Wobr Pulitzer am Farddoniaeth ar Galan Mai 1950 am ei chyfrol Annie Allen, y tro cyntaf i fenyw Americanaidd gipio'r wobr.[1][2] Mae ei henw bedydd "Gwendolyn" yn enw Cymreig.
Fe'i ganed yn Topeka, Kansas a bu farw o ganser yn ei chartref yn Chicago; claddwyd hi ym Mynwent Lincoln.
Trwy gydol ei gyrfa fel awdur, derbyniodd Brooks lawer mwy o anrhydeddau. Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog Illinois ym 1968, swydd a ddaliodd hyd ei marwolaeth, a'r hyn a elwir bellach yn "Fardd Llawryfog Llyfrgell y Gyngres" (Poetry to the Library of Congress) ar gyfer y tymor 1985–86. Yn 1976, hi oedd y fenyw Affricanaidd-Americanaidd gyntaf a gafodd ei derbyn i Academi Celfyddydau a Llythrenau America.[3][4][5]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw nytobit
|dead-url=
ignored (help)
|accessdate=
(help)